Amrywiaeth a Chynhwysiant

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cyfleoedd hyfforddiant

Mae S4C yn benderfynol o helpu pobl ddawnus yng Nghymru i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i ddod yn rhan o'n gweithlu, beth bynnag yw eu cefndiroedd. Dyna pam rydym ni'n cefnogi ystod eang o brosiectau a chyfleoedd ar bob cam o'r llwybr gyrfa.

Isod mae manylion dau gyfle gwerthfawr i hyfforddi yn y cyfryngau a chael profiad gwaith ar yr un pryd.

  • Bwrsariaeth Cyfryngau Chwaraeon S4C

    Angerddol am chwaraeon? Mae'r bwrsari yma'n cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau darlledu chwaraeon ar gwrs MSc ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ynghyd â phrofiad ymarferol gyda rhai o gwmnïau cynhyrchu mwyaf Cymru.

  • Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth S4C

    Bob blwyddyn, mae Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth S4C yn cynnig cymorth ariannol, profiad gyrfa ymarferol a chyfleoedd i fyfyriwr ar gwrs MA JOMEC mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu ym Mhrifysgol Caerdydd.