Swyddi

Swyddi

Croeso i Hafan Swyddi a Gyrfaoedd S4C

  • Prif Swyddog Technegol

    Mae S4C yn chwilio am Brif Swyddog Technegol, i chwarae rhan ganolog wrth lunio a chyflawni ein strategaeth ddigidol a thechnolegol i gefnogi ein cenhadaeth a'n twf yn y dyfodol. Mae hon yn swydd arwain allweddol, a bydd ei deiliad yn gyfrifol am sbarduno arloesedd, sicrhau seilwaith technoleg cadarn a diogel, a gofalu bod atebion technegol yn cyd-fynd â nodau busnes. Rydym yn chwilio am arweinydd â gweledigaeth sydd ag arbenigedd technegol cryf a meddylfryd cydweithredol, person a fydd yn gallu ysbrydoli timau, rheoli partneriaethau technoleg allweddol a'n helpu ni i ddefnyddio technoleg i wasanaethu ein cynulleidfaoedd mewn ffyrdd newydd a diddorol.

  • Pennaeth Ffrydio a Digidol

    Dyddiad Cau: 16 Mehefin 2025

    Mae S4C yn chwilio am Bennaeth Ffrydio a Digidol i weithio gyda'r timau comisiynu, cyhoeddi, digidol, marchnata, ymchwil a datblygu cynnyrch, i sicrhau bod holl gynnwys S4C yn cael ei ddosbarthu a'i flaenoriaethu ar draws y llwyfannau digidol mwyaf perthnasol, gan ddiwallu anghenion ein cynulleidfaoedd a sicrhau'r gwerth gorau i S4C.

  • Pecyn Gwybodaeth Ymgeisydd S4C

    Pecyn Gwybodaeth Ymgeisydd S4C

    • Lefel 2