Amrywiaeth a Chynhwysiant

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Bwrsariaeth Cyfryngau Chwaraeon S4C

Mae S4C yn chwilio am newyddiadurwyr chwaraeon y dyfodol. Rydym yn cynnig cyfle gwerthfawr i berson angerddol i ddatblygu sgiliau ar gwrs MSc ar y cyd gyda phrofiad ymarferol gyda rhai o gwmnïoedd cynhyrchu mwyaf Cymru.

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Bwrsariaeth Chwaraeon S4C 2025/26, sy'n cynnwys:

  • Lle ar gwrs MSc Darlledu Chwaraeon Prifysgol Metropolitan Caerdydd (mis Medi 2025 tan fis Medi 2026, cwrs llawn amser)
  • Ffi'r cwrs (£11,000) wedi'i dalu gan S4C
  • Profiad gwaith gyda thîm digidol chwaraeon S4C
  • Profiad gwaith gydag un neu fwy o'n cynhyrchwyr: Rondo, Slam Media a Sunset & Vine
  • Cyfle i gael cyfnod gwaith wedi'i dalu ar ôl i'r cwrs orffen.

Ydw i'r person iawn?

Byddi di'n berson sy'n caru chwaraeon, gyda gwybodaeth cynhwysfawr ac angerdd dros bob math o gampau.

Byddi di'n gallu dangos safbwynt newydd a gwahanol i ni. Ar hyn o bryd mae rhai grwpiau o bobl heb gael eu cynrychioli yn ddigonol yn ein gweithlu, ac rydym yn benderfynol i newid hynny. Felly, bydd modd i ti wneud cais os ti:

  • ag etifeddiaeth ethnig leiafrifol
  • ag anabledd a/neu
  • yn dod o gefndir economaidd-gymdeithasol ddifreintiedig.

Bydd angen arnat ti ymdopi ag anghenion y cwrs, ac efallai bydd gennyt radd – ond byddem yn hapus i ystyried pobl sydd â chymwysterau neu brofiad gwerthfawr gwahanol sy'n dangos i ni beth yw dy botensial.

Bydd angen arnat ti allu sgwrsio yn y Gymraeg; gallwn dy helpu i wella dy sgiliau iaith os oes angen.

Sut mae gwneud cais?

Er mwyn gwneud cais, bydd angen llenwi ffurflen. Bydd y ffurflen yn gofyn cwestiynau cyffredinol (enw, cyfeiriad, ayyb). Wedyn bydd:

  • lle i ti ysgrifennu datganiad hyd at 500 o eiriau i esbonio pam ti yw'r person gorau i gael y cyfle hwn, a
  • gwybodaeth ar sut i gyflwyno fideo hyd at un funud dy fod ti wedi saethu dy hun (bydd saethu ar ffôn yn iawn).

Trwy'r datganiad a'r fideo, rydym am i ti ddweud wrthym ni:

  • Pam wyt ti eisiau cael y cyfle hwn?
  • Sut wyt ti'n cwrdd â'n anghenion amrywiaeth?
  • Beth yw dy brofiadau addysg a chyfryngau chwaraeon hyd yn hyn sy'n dangos i ni y byddi di'n gallu ymdopi â'r cwrs a dod â safbwynt diddorol i'n cynnwys?
  • Pa fath o sgiliau Cymraeg sydd gennyt ti?

Rydym ni angen datganiad a fideo, y ddau, gennyt ti. Cofia greu rhywbeth sy'n cyd-fynd â'r brîff, sy'n sgil darlledu yn ei hun. Mae'n angenrheidiol dy fod ti'n cwrdd â'r gofynion yma.

Gelli ti wneud cais yma. Mae angen ei gyflwyno y ffurflen erbyn 9yb, dydd Llun 2 Mehefin.

Rydym yn awyddus iawn i sicrhau hygyrchedd ar gyfer pobl ag anableddau. Felly, os bydd angen unrhyw addasiad rhesymol arnat ti er mwyn dy gefnogi i ymgeisio am y cyfle hwn, cysyllta cyn gynted â phosib i ddweud wrthym ni beth sydd ei angen arnat ti.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Unwaith bydd y ceisiadau wedi cau, byddwn yn eu hystyried ac wedyn cysylltu atat ti erbyn Dydd Llun, 30 Mehefin. Bydd cyfweliadau ar gyfer y rheiny sydd wedi cyrraedd ein rhestr fer yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn 14 Gorffennaf, nai llai yng Nghaerdydd neu ar-lein ar Teams. Bydd treuliau teithio rhesymol ar gael i'r rheiny sy'n mynychu cyfweliad wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd.

Mae gen i gwestiwn

Os oes gen ti unrhyw gwestiwn am sut i wneud cais, anfona e-bost at amrywiaeth@s4c.cymru.

Oes oes gen ti unrhyw gwestiwn am y cwrs MSc, cysyllta â Joe Towns, Cyfarwyddwr y Rhaglen: JTowns@cardiffmet.ac.uk.