Y Wasg

Y Wasg

Gohirio rhaglen Mel a Nia

12 Rhagfyr 2011

 Yn dilyn y digwyddiadau trist ym mhentref Penygroes yng Ngwynedd dros y Sul, mae S4C wedi penderfynu gohirio darlledu rhifyn nesaf o’r gyfres Mel a Nia nos Fercher 14 Rhagfyr.

Bydd y ddwy bennod olaf nawr yn cael eu dangos fel un rhaglen awr o hyd ar nos Fercher 21 Rhagfyr am 20:25.

Mae S4C a’r cwmni cynhyrchu Fflic yn cydymdeimlo gyda’r teuluoedd a’r gymuned gyfan mewn cyfnod trist ac anodd i drigolion yr ardal.

Diwedd