Tendrau

Tendrau

Archif Tendrau 2018 - 2020

  • Gwahoddiad i dendro ar gyfer Gwasanaethau Clyweledol

    Mae S4C am benodi cwmni i gyflenwi offer clyweledol a gwasanaethau technegol ar gyfer digwyddiadau amrywiol.

  • Tendr ar gyfer Gwasanaeth Diogelwch â Gofalwr i S4C

    Mae S4C wedi cyhoeddi tendr ar gyfer Cytundeb Gwasanaethau Diogelwch â Gofalwr am gyfnod o ddwy flynedd gydag opsiwn i ymestyn y cytundeb am 12 mis pellach. Mae'r gwasanaethau yma ar gyfer prif swyddfa S4C yn Llanisien, Caerdydd. Er mwyn ymateb i'r tendr bydd angen cwblhau'r Holiadur Cyn-Gymhwyso.

  • Gwahoddiad i ddatgan diddordeb: Cytundeb Fframwaith Dybio Animeiddiadau Plant

    Gwahoddir ymgeiswyr i fod yn rhan o gytundeb fframwaith ar gyfer dybio cyfresi a rhaglenni animeiddiedig ar gyfer gwasanaethau plant S4C gan gynnwys Cyw a Stwnsh.

  • Tendr Gwasanaethau Symud Swyddfa

    Mae S4C yn dymuno penodi cwmni i drefnu a gweithredu prosiect symud swyddfa gan sicrhau'r effaith lleiaf posib ar barhad busnes S4C.

  • Tendr ar gyfer Darparu Gwasanaethau Data Gwylio a Gwerthfawrogiad y Gynulleidfa

    Mae S4C yn rhedeg tendr ar gyfer gwasanaeth darparu data gwylio a gwerthfawrogiad y gynulleidfa mewn perthynas â rhaglenni S4C

  • Gwahoddiad i dendro ar gyfer darparu Gwasanaeth Tracio Delwedd

    Mae S4C yn dymuno penodi cwmni i ddeall agweddau gwylwyr tuag at S4C a'r prif sianeli eraill, o ran brand a chynnwys ac i fonitro'r rhain dros amser.

  • Tendr ar gyfer Darparu Gwasanaethau Mynediad ar S4C

    Dyma'r cwmniau llwyddiannus yn dilyn y tendr diweddar ar gyfer Darparu Gwasanaethau Mynediad.

    • Sain Disgrifiad: Cardiff Television Cyf (CTV)
    • Arwyddo: ITV Signpost
    • Isdeitlo: Cyfatebol
  • Tendr ar gyfer Darparu Gwasanaethau Archwilio Allanol 2016

    Mae S4C yn rhedeg tendr ar gyfer darpariaeth gwasanaethau archwilio allanol.

  • Tendr ar gyfer Darparu Gwasanaethau Archwilio Mewnol 2015

    Mae S4C yn rhedeg tendr ar gyfer darpariaeth gwasanaethau archwilio mewnol.

  • Cais am Bris Gwasanaeth Datblygu Ap ‘Dygsu Gyda Cyw’

    Mae S4C yn cyhoeddi Cais am Bris ar gyfer darpariaeth gwasanaethau datblygu ap 'Dysgu Gyda Cyw'. Mae'r Cais am Bris wedi ei hysbysebu ar Sell2Wales.co.uk. Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau ymateb yn y ffurf y gosodir yn y dogfennau isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r ymateb i S4C yw canol dydd, dydd Iau 22ain o Awst 2019.

  • Gwahoddiad i dendro ar gyfer darpariaeth/trwydded i Offer Rheoli Cynnwys Ar-lein

    Mae S4C yn dymuno penodi cwmni i ddarparu a/neu drwyddedu platfform/offer/meddalwedd ar gyfer darparu swyddogaethau cipio fideo ar-lein, ffrydio'n fyw a chyhoeddi cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol.

    Mae atebion i'r cwestiynau nawr ar gael yn y linc.