Tendrau

Tendrau

Archif Tendrau 2011 - 2013

  • Gwahoddiad am gynigion i greu a gwerthu nwyddau Cyw

    Dymuna adain fasnachol S4C wahodd cynigion i gynllunio, cynhyrchu a dosbarthu nwyddau yn seiliedig ar y brand a'r cymeriadau craidd o'i gwasanaeth rhaglenni plant, Cyw.

  • Gwahoddiad i dendro i ddarparu gwasanaeth Rheoli Prosiect Taith Nadolig Cyw 2013

    Mae S4C yn awyddus i benodi cwmni addas i reoli prosiect Taith Nadolig Cyw o'r dechrau i'r diwedd.

  • Gwahoddiad i dendro am gytundeb i ddarparu Gwasanaethau Prynu Cyfryngau

    Mae S4C yn dymuno penodi cwmni i gynghori, cynllunio, bwcio ac adolygu ymgyrchoedd yn y cyfryngau i hyrwyddo rhaglenni a gwasanaethau S4C.

  • Gwahoddiad am geisiadau i gyhoeddi a gwerthu cerddoriaeth ar bapur Hughes a'i Fab

    Bwriad S4C, felly, yw cynnig trwydded i weithredu hawliau atgynhyrchu a dosbarthu'r gerddoriaeth gyhoeddedig ac rydym yn gwahodd ceisiadau oddi wrth y rheiny sydd â diddordeb mewn gwneud hynny.

  • Gwahoddiad i dendro: Cytundebau fframwaith cyfieithu

    Mae S4C yn tendro am gytundebau fframwaith ar gyfer gwasanaethau cyfieithu ar gyfer llythyrau, dogfennau, adroddiadau, deunyddiau marchnata, canllawiau a pholisïau, yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon a chyfieithu ar y pryd.

  • Tendr ar gyfer Darparu Gwasanaethau Archwilio Mewnol a Thendr ar gyfer Darparu Gwasanaethau Archwilio Allanol

    Yn dilyn proses tendr agored mae S4C wedi penodi PricewaterhouseCoopers LLP fel archwilwyr mewnol a Grant Thornton UK LLP fel archwilwyr allanol.

  • Ar gyfer gwasanaethau Rhwydwaith Darparu Cynnwys ("RDC") a/neu gwasanaethau gweinydd/amgodio aml-ddyfais, aml-blatform.

    Mae S4C yn rhedeg tendr ar gyfer gwasanaethau Rhwydwaith Darparu Cynnwys a/neu gwasanaethau gweinydd/amgodio aml-ddyfais, amlblatfform.