Rhyngwladol

Rhyngwladol

    Sut i wylio S4C yn rhyngwladol?

    Mwynhewch raglenni S4C ar S4C Clic wrth gofrestru am ddim. Gallwch hefyd fwynhau bocs sets a chynnwys ecsgliwsif.

    Dyma restr lawn o'r holl gynnwys S4C sydd ar gael yn rhyngwladol trwy S4C Clic.

    Heb gofrestru eto? Beth am greu eich cyfrif am ddim nawr? Dim ond 2 funud fydd e'n cymryd ac mi fydd yn eich cofio chi y tro nesaf.

    Oes gennych gwestiwn am raglen benodol? Cysylltwch â gwifren@s4c.cymru ac fe fyddwn yno i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau.

    Am wybodaeth ynglŷn â pha ddyfeisiau sy'n galluogi chi i dderbyn S4C Clic, cliciwch yma.

    Marw gyda Kris

    Kristoffer Hughes sy'n teithio'r byd i ddod o hyd i'r ffyrdd mwyaf gwahanol, ac efallai gwell o ddelio â marwolaeth. Dyma daith bersonol i galon marwolaeth.

      Ein Cylchlythyr

      Ar gael nawr

      Mae mwy o raglenni S4C nag erioed o'r blaen ar gael i wylwyr ar draws y byd.

      Os ydych chi'n dymuno derbyn gwybodaeth am gynnwys rhyngwladol S4C, gallwch danysgrifio i dderbyn e-bost achlysurol.

      Os ydych chi'n hapus i dderbyn gwybodaeth gan S4C am ein cynnwys rhyngwladol, neu i ni ofyn eich barn am ein gwasanaethau, darparwch eich e-bost yn y blwch isod.

      Rydym yn cydnabod bod angen cadw eich manylion personol yn ddiogel. Ni fyddwn yn anfon eich manylion at unrhyw un heb eich caniatâd ac mi fyddwn yn esbonio sut i ddad-danysgrifio bob tro y byddwn ni'n cysylltu â chi.

      • Yn Ol a Mlaen

        Deian a Loli

        Cyfres newydd am yr efeilliaid direidus a'u pwerau hudol. Mae Mam di dod adra efo llond bocs o geriach o dŷ Fodryb Pertuna gan gynnwys fás gwerthfawr. Be fydd yn digwydd pan fydd Deian a Loli yn torri hen fás modryb Pertuna' Fydd gan ffawd ran i'w chwarae'

      • Pobol y Cwm

        Bwrdd i Dri - Cyfres 3

        Cyfres giniawa lle mae 3 person adnabyddus yn cystadlu drwy baratoi pryd o fwyd 3 chwrs.

      • Ysgol Tyle`r Ynn

        Dal Dy Ddannedd

        Timau o Ysgol Tyle`r Ynn sy'n ymuno â Pwdryn a Melys i chwarae llond trol o gemau lliwgar! Pa dîm all gasglu y mwya o ddannedd glân ac ennill Tlws Dani Dant heddi'

      • Hadau Pw Pw

        Annibendod

        Mae Gwyneth Gwrtaith wedi meddwl am gynllun busnes newydd sbon: gwerthu Hadau Adar Pw Pw Pwerus a buan iawn mae Dad, Anni, Cai a Bela Drws nesa'n dod i ddeall pwser pw pw yr adar lleol!

      • Chwaraeon 2

        Caban Banana Gareth

        Mi fydd Gareth yr Orangutan yn teithio ysgolion ledled Cymru yn ei Gaban Banana, ac yn trafod pob math o bynciau difyr gyda plantos bach brwdfrydig y wlad. Wythnos yma, Chwaraeon ydi'r pwnc trafod.

      • Dim Cwsg i Quinnell

        Dim Cwsg i Quinnell

        Pan mae Cymru yn mynd i gysgu mae na griw arbennig o bobl yn dechrau eu diwrnod. Yn ymuno â'r garfan ddiwyd yma am un shift unigryw mae'r eicon rygbi a'r dysgwr Cymraeg, Scott Quinnell. Yn y bennod olaf, mae Scott yn Amazon yn Abertawe ac yng ngwesty mawreddog Portmeirion.

      • Ne-wff-ion

        Ne-wff-ion

        Newyddion mawr y dydd yw fod siarc wedi ei weld oddi ar arfordir Cymru ym Mhenarth

      • Tai Newydd

        Cartrefi Cymru - Cyfres 2

        Cyfres lle bydd Aled Samuel a'r hanesydd adeiladau, Bethan Scorey yn edrych ar wahanol fathau o gartrefi yng Nghymru ¿ o ffermdai i dai newydd, tai teras i dai anarferol. Byddwn yn agor y drws ar hanes pensaernïol Cymru. Yn y rhaglen hon byddwn yn edrych ar dai newydd.