Rysait Mecryll a Salad Cynnes o'r Ardd
Cynhwysion
- Dail salad o'r ardd
- Mecryll
- Ffa
- Garlleg
- Halen a Phupur
- Chillis
- Olew olewydd
Dull
- Coginio'r mecryll ar y barbeciw.
- I wneud y dressing, rhowch olew olewydd mewn padell ffrio cyn ychwanegu'r garlleg wedi'i sleisio, chillis coch, halen, pupur a'r ffa.
- Nesaf, ychwanegwch y letys. Dim ond eu gwywo rhyw fymryn sydd angen.
- Gosod y gymysgedd o'r badell ar blat cyn rhoi'r mecryll ar ei ben.