Rysait Cyri Hydrefol
- 2 Llwy fwrdd o bast cyri
- Llaeth cnau coco
- Nionyn
- Garlleg
- Sgwash
- Cêl
Cynhwysion Y Salad
- 5-6 Moron
- 1/2 Llwy de o halen
- 1-2 Llwy fwrdd o olew olewydd
- 1 Llwy fwrdd o hadau mwstard
- 1 Llwy fwrdd o sudd lemwn
Ar gyfer y cyri
- Pliciwch y sgwash a'i dorri yn ddarnau
- Ychwanegwch y past cyri, nionyn a'r garlleg i'r badell a'u coginio ar dymheredd isel am 3 munud
- Ychwanegwch y llaeth cnau coco a'i gymysgu
- Ychwanegwch y sgwash a'i orchuddio gan droi y gwres i lawr. Coginiwch am 10 munud.
- Ychwanegwch y cêl a'i adael i wywo am 5 munud
Ar gyfer y salad
- Rhowch y moron wedi gratio mewn powlen cyn ychwanegu halen
- Rhowch olew mewn padell boeth ac ychwanegu'r hadau mwstard
- Pan mae'r hadau yn popio, ychwanegwch nhw at y moron
- Rhowch sudd lemwn dros y cwbwl a'i gymysgu