Cawl Shibwns
Cynhwysion
- 4 Cwpanaid o shibwns
- 2 Llwy fwrdd olew olewydd
- 4 Clof garlleg
- 2 Gwpanaid o datws
- Halen a phupur
- Sudd lemon
- 6 Cwpanaid o sdoc llysiau
Dull
- Torrwch y shibwns yn fân, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio'r darn gwyrdd hefyd!
- Rhowch olew olewydd mewn sosban ac ychwanegu'r garlleg cyn rhoi'r nionod i mewn yn y sosban.
- Ychwanegwch y tatws.
- Gadewch i chwysu am fymryn cyn ychwanegu 6 cwpanaid o sdoc, digon i orchuddio'r llysiau.
- Ychwanegwch halen a phupur.
- Wrth i'r gymysgedd ddod i'r berw, trowch y gwres i lawr a'i goginio am tua 20 munud.
- Blendiwch yn fân cyn ychwanegu ychydig o sudd lemon.