Picl Rhiwbob
Cynhwysion
- 500ml finegr seidr
- 300g siwgr
- 1 1/2 llwy fwrdd halen
- 1/2 llwy de o hadau mwstard melyn
- 6 o beli pupur du
- 3cm sinsir ffres, wedi ei blicio a'i sleisio'n denau
- Zest 1 oren, wedi ei blicio efo pliciwr tatws
- 450g rhiwbob ffres, wedi eu golchi a'u torri i ddarnau 2cm o hyd
Dull
- Mewn sosban, cyfunwch y finegr, siwgr, halen, hadau mwstard a'r pupur. Coginiwch dros wres isel a'i droi bob hyn a hyn nes bod y siwgr wedi toddi.
- Tynnwch oddi ar y gwres cyn ychwanegu'r sinsir a'r croen oren. Gadewch yr hylif i oeri.
- Rhannwch y gymysgedd rhiwbob rhwng 3 x 340g jariau gwydr. Rhowch gaead ar ben bob un a'i adael yn yr oergell am 2 ddiwrnod cyn ei fwyta.