Pice Nadolig
Cynhwysion
- 250g Blawd codi
- 125g Menyn
- Pinsied o Halen
- 75g Siwgwr
- 100g Cnau Cyll
- 100g Llugaeron wedi eu sychu
- Croen 1 Oren
- 1 Wy
I'w Gweini
- Siwgr Eisin
- Llugaeron ffres
- Rhosmari
Dull
- Cymysgwch y blawd codi gyda'r menyn, halen, siwgr, cnau cyll, llugaeron a chroen 1 oren.
- Dewch a'r gymysgedd at ei gilydd a'i friwsioni.
- Curwch 1 wy a'i ychwanegu at y gymysgedd.
- Defnyddiwch ychydig o lefrith os nad ydi'r toes yn ffurfio.
- Rholiwch y toes i dewder pice a'u torri gyda thorrwr bisgedi.
- Gosodwch ar ridyll poeth a'u coginio ar bob ochr am 1 - 1 1/2 munud.
- I orffen, rhowch siwgr eisin ar eu pennau a'u gweini gyda llugaeron ffres a rhosmari.