Cynhwysion
- 500g Ffa 
-  1/2 llwy de o olew olewydd 
- 1 nionyn bach wedi torri'n fân 
- 3 ewin garlleg wedi torri'n fân 
- Sudd 1 lemon 
- 50ml o extra-virgin olive oil 
- 25ml dŵr
- Coginiwch y ffa am 3 munud mewn dŵr berwedig. 
- Draeniwch a'i rinsio
mewn dŵr. 
- Tynnwch y croen, dyma sy'n rhoi gwynt i chi medden nhw! 
- Cynheswch yr olew olewydd mewn padell ffrio fawr a'i coginio yn araf
nes bod y nionyn yn feddal ond heb ei frownio. 
- Ychwanegwch y garlleg a'i goginio am 3 munud arall. 
- Ychwanegwch y ffa
a'i cynhesu am 3 munud. 
- Ychwanegwch halen a phupur. 
- Arllwyswch gynhwysion y badell i brosesydd bwyd ac ychwanegwch sudd
lemon, yr olew olewydd a'r dŵr. 
- Blendiwch i ffurfio stwnsh. 
- Ychwanegwch fintys a marjoram. 
- Ychwanegwch mwy o'r sudd lemon neu'r olew olewydd os oes angen. 
Ar gyfer y madarch, mae Iwan yn eu glanhau gyda brwsh i gael gwared ar unrhyw ddeiliach cyn eu ffrio gyda garlleg mewn menyn.