Jeli Fuchsia
Cynhwysion yr hylif
- 6 Cwpan o ddŵr berwedig
- 4 Cwpan o siwgr gwyn
- 125ml Pectin afal
Ar gyfer y blodau
- 2 Gwpan o flodau fuchsia
- 2 Gwpan o siwgr gwyn
- 1/2 Cwpan o sudd lemon
Dull
- Y peth cyntaf i'w wneud ydi rhyddhau lliw a blas y blodau trwy eu cymysgu efo siwgr a sudd lemon.
- Ychwanegwch siwgr a pectin afal at ddŵr berwedig cyn ychwanegu'r gymysgedd blodau.
- Berwch y gymysgedd am tua 30 munud.
- Mae'r jeli yn barod i'w fotelu pan fydd croen yn ffurfio ac yn aros ar wahan ar blat oer wrth i chi dynnu'ch bys trwyddo.
- Ar ôl ei fotelu, gadewch i setio dros nos.