Gin Damsons
Cynhwysion
- Hanner pwys o damsons
- Chwarter pwys o siwgr
- 1 Litr o gin
Dull
- Unwaith i chi gasglu'r damsons, mae angen torri croen y ffrwythau i adael i'r sudd, ei flas a'r gin gymysgu.
- Rhowch bopeth arall yn y jar ar ben y ffrwythau. Yn gyntaf y siwgr, yna'r gin.
- Ysgwyd y jar.
- Trowch y gymysgedd bob hyn a hyn, a'u gadael am ychydig fisoedd - hyd at flwyddyn os allwch chi ddisgwyl gymaint a hynny!