Garddio a Mwy

Garddio a Mwy

Gardd Iona

Fe gysylltodd Iona â'r tim i holi am gynllun plannu i'w bordor newydd yn yr ardd. Er ei bod nhw'n byw yno ers 10 mlynedd bellach, tydi'r ardd heb gael fawr o sylw…

Cwyros (Dogwood. Lladin: Cornus)

Mae Cwyros yn cael eu tyfu am eu hamrywiaeth o rysglau lliwgar. Maen nhw ar eu gorau o gwmpas y Nadolig a'r flwyddyn newydd. Torrwch nhw i lawr ar gychwyn y Gwanwyn er mwyn hybu tyfiant newydd, a chadw'r lliwiau llachar ar gyfer y Gaeaf.

Perfagl Leiaf (Lesser Periwinkle. Lladin: Vinca Major/Minor)

Mi ddewison ni y Vinca Minor, sydd ychydig yn llai ymledol na'i gefnder y Berfagl Fwyaf, Ll. Vinca Major, ond yn dal i allu llenwi gwagle'n gyflym a rhoi blodau glas hyfryd.

Mae'r planhigyn yn un cryf, sydd ddim angen llawer o sylw!

Mae'n hapus mewn unrhyw fath o bridd, a hyd yn oed yn tyfu'n ddi-lol yn y cysgod.

Coed Bedw math. Jacquemontii. (Lladin: Betula Utilis var. Jacquemontii)

Nid oedd modd llwytho'r cyfryngau, naill ai oherwydd bod y gweinydd neu'r rhwydwaith wedi methu neu oherwydd nad yw'r fformat yn cael ei gefnogi.
Coed Bedw

Un o'r coed mwyaf trawiadol sy'n ddefnyddiol mewn gerddi llai. Rhisgl golau, bron yn wyn. Mae ganddo liw hyfryd yn yr Hydref, gyda'r dail yn troi'n euraidd cyn disgyn i ffwrdd.