Cwis Bob Dydd

Cwis Bob Dydd

Sut i ddileu dy gyfrif

Galli di ddileu dy gyfrif o fewn yr ap ar unrhyw adeg drwy ddewis "Dileu cyfrif" ar y dudalen "Fy Nghyfrif".

Pan fyddi di'n dileu dy gyfrif, bydd yr holl fanylion yn dy broffil personol (gan gynnwys dy enw defnyddiwr, dy lun proffil, dy sgoriau a dy grwpiau preifat) yn cael eu dileu'n barhaol oddi ar y system.

I ddileu dy gyfrif:

  1. Defnyddia dy ddyfais i fewngofnodi i Cwis Bob Dydd.
  2. Dewisa'r eicon tair llinell yng nghornel dde uchaf y sgrin i agor y ddewislen.
  3. Clicia ar "Fy Nghyfrif".
  4. Dewisa "Dileu cyfrif".
  5. Bydd neges yn ymddangos. Bydd angen i ti ddarllen y neges yma cyn dewis "Parhau".
  6. A dyna ti! Rwyt ti wedi dileu dy gyfrif yn llwyddiannus.