Neidio i'r prif gynnwys
Hafan S4C
S4C Clic
Newyddion
Amserlen Teledu
English
Golau
Tywyll
Pori
Pori
Adloniant
Chwaraeon
Cerddoriaeth
Drama
Ffeithiol
Cyw
Stwnsh
Appearance
Golau
Tywyll
English
Hafan Cegin
Llysieuol
Cig
Gan Colleen Ramsey
Pwdin pinafal
Gan
Gareth Richards
Hawdd
Cynhwysion
220g tun pinafal mewn sudd
90ml rỳm
50g menyn meddal
50g siwgr castir
1 ŵy
50g blawd codi
2 ½ llwy fwrdd triog
100ml hufen
Dull
Draeniwch y tun pinafal, ond cadwch y sudd i un ochr.
Gosodwch y binafal mewn bowlen efo 75ml o rỳm a gadwch i marandi.
Draeniwch ac ychwanegwch y sudd pinafal.
Cynheswch y ffwrn i wres 180°c / Ffan 160°c / Nwy 4.
Defnyddiwch dun pobi pwdin Efrog (yorkshire pudding) gyda 4 rhan iddo a gosodwch bapur gwrthsaim yn y tun.
Chwyrliwch y menyn a'r siwgr, ac yna'n raddol ychwanegwch y ŵy, blawd a 1 ½ llwy fwrdd o rỳm.
Rhannwch y triog rhwng y tun gyda phinafal ac yna llenwch efo'r cytew teisen. Pobwch am 15 munud yna gadwch i orffwys am tua 10 munud.
Yna gosodwch ar blatiau, cyfunwch weddill y triog efo'r sudd a brwsiwch drosodd am sglein.
Chwyrliwch weddill y rỳm a'r hufen a gwaenwch.
Rysáit gan Gareth Richards, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Pwdins Prynhawn Da
Cacen caws siocled
Darllen mwy
Panna cotta siocled gwyn
Darllen mwy