Neidio i'r prif gynnwys
Hafan S4C
S4C Clic
Newyddion
Amserlen Teledu
English
Golau
Tywyll
Pori
Pori
Adloniant
Chwaraeon
Cerddoriaeth
Drama
Ffeithiol
Cyw
Stwnsh
Appearance
Golau
Tywyll
English
Hafan Cegin
Llysieuol
Cig
Gan Colleen Ramsey
Moussaka llysieuol
Gan
Catrin Thomas
Llysieuol
Hawdd
Cynhwysion
2 aubergine
275ml stoc lysieuol
100g ffacbys
4 llwy fwrdd olew olewydd
1 pupur coch
2 clof garlleg
1 tun tomatos
200ml gwin coch
2 lwy fwrdd tomato purée
1 llwy de sinamon
persli
I'w addurno:
250g ricota
275ml llaeth
25g blawd plaen
25g menyn
Nytmeg wedi gratio
1 ŵy
30g parmesan
Dull
Cynheswch y popty i 160C ffan/ Nwy 4
Golchwch y corbys mewn rhidyll a'u rhoi mewn sosban gyda'r stoc poeth a'u mudferwi am 30 munud nes bod yr hylif bron wedi amsugno.
Yn y cyfamser cynheswch 2 lwy fwrdd o olew olewydd mewn sosban fawr a ffriwch y winwns, yna ychwanegwch y pupur a'r garlleg.
Yna tynnwch allan a'i roi mewn dysgl.
Ychwanegwch y 2 lwy fwrdd o olew olewydd i'r badell a dechreuwch ffrio'r wylys (aubergines).
Unwaith y byddan nhw'n frown euraidd, ychwanegwch y tomatos wedi'u draenio, y cymysgedd winwnsyn.
Ychwanegwch y gwin coch, y piwrî tomato a'r sinamon.
Ychwanegwch y corbys a'r persli wedi'i dorri.
Sesno a mudferwi.
I wneud y topyn cymsygwch y llefrith, blawd, menyn yn dda nes iddo ddod i'r berw.
Sesnwch yn dda.
Ychwanegwch y ricotta a'r wy oddi ar y gwres.
Trosglwyddwch y cymysgedd corbys i ddysgl lasagne a'r topin hufennog.
Topiwch gyda Parmesan.
Pobwch am 1 awr.
Gadewch i orffwys am 15 munud a gweinwch gyda salad a bara pitta.
Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.