Neidio i'r prif gynnwys
Hafan S4C
S4C Clic
Newyddion
Amserlen Teledu
English
Golau
Tywyll
Pori
Pori
Adloniant
Chwaraeon
Cerddoriaeth
Drama
Ffeithiol
Cyw
Stwnsh
Appearance
Golau
Tywyll
English
Hafan Cegin
Llysieuol
Cig
Gan Colleen Ramsey
Log siocled gwirod
Gan
Nerys Howell
Llysieuol
Canolig
Cynhwysion
175g menyn neu fargarin
150g siwgr castir
3 ŵy
150g blawd codi
25g powdwr coco
50ml gwirod hufen (liqueur)
Hufen menyn:
150g menyn
175g siwgr eisin
1 llwy de fanila
30-50ml gwirod hufen
Dull
Cynheswch y ffwrn i 190°c / 170 ffan / Nwy 5 a seimiwch tin siap log.
Cymysgwch y menyn a siwgr mân nes mae'n wlanog ac yna ychwanegu y ŵyau tamed ar y tro.
Hidlwch y blawd a coco at ei gilydd a plygwch mewn i'r cymysg ŵyau.
Plygwch y gwirod a llwy mewn i'r tin.
Pobwch yn y ffwrn tan mae'n codi a coginio trwyddo am tua 35 i 40 munud. Gadwch yn y tin am 10 munud cyn troi drosodd arno i ffultuth oeri.
Yn y cyfamser gwnewch yr hufen menyn gan gymysgu'r menyn a'r rhinflas fanilla tan yn mae'n ysgafn. Yna ychwanegwch yr eisin siwgr a'r gwirod.
Torrwch y log mewn hanner a llenwch gyda ychydig o'r hufen menyn cyn ail-gysylltu'r dau rhan. Defnyddiwch gweddill y hufen menyn i gorchuddio'r log.
Defnyddiwch fforc i greu marciau rhisgl. Ysgeintiwch gyda'r powdwr coco.
Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.