Flapjacs mêl
Cynhwysion
- 175g menyn 
- 330g ceirch uwd (os ydych chi ddim yn bwyta glwten, mae'n bosib defnyddio uwd di-glwten)
- 125g siwgr brown golau 
- 55g sirop neu mêl 
- 70g rhesins/bricyll/datys/hadau blodyn yr haul
Dull
- Cynheswch y popty i 180c 
- Rhowch y menyn, sirop a'r siwgwr mewn sosban. 
- Cynheswch dros wres uchel am 2-3 munud nes wedi toddi. 
- Ychwanegwch y ceirch uwd a chymysgu'n dda. 
- Rhowch y gymysgeth yng ngwaelod tin a gwaelod fflat a chymysgu'n dda gan wasgu lawr gyda spatula. 
- Pobwch am tua 25 nes yn euraidd ond dal yn feddal. 
- Tynnwch o'r popty a oerwch am 10 munud cyn torri'n sgwariau. 
- Gadewch nhw i oeri am ychydig eto yn y tin cyn eu tynnu a'i rhoi mewn bocs.
Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Instagram: @lisafearncooks
Twitter: @lisaannefearn