Neidio i'r prif gynnwys
Hafan S4C
S4C Clic
Newyddion
Amserlen Teledu
English
Golau
Tywyll
Pori
Pori
Adloniant
Chwaraeon
Cerddoriaeth
Drama
Ffeithiol
Cyw
Stwnsh
Appearance
Golau
Tywyll
English
Hafan Cegin
Llysieuol
Cig
Gan Colleen Ramsey
Crème brulee bara brith
Gan
Dan ap Geraint
Hawdd
Cynhwysion
500ml hufen dwbl
150g siwgr castir
1 pod fanila
5 melynwy
1 bara brith
50g siwgr castir
Dull
Cynheswch y ffwrn i 120°c.
Cyfunwch yr hufen, siwgr, fanila a melynwy mewn bowlen fawr. Cymysgwch yn drylwyr.
Torrwch y bara brith mewn i giwbiau bach, yna gosodwch nhw mewn bowlenni bach.
Arllwyswch y cymysgedd hufen dros y bara brith nes mae'r bowlenni ¾ llawn.
Gadwch i eistedd am 30 munud i adael y bara brith amsugno'r hufen.
Gosodwch y bowlenni bach mewn dysgl ddofn, yna ychwanegwch dŵr i waelod y ddysgl i greu "bain marie".
Pobwch am 30 munud nes iddo setio.
Unwaith mae wedi coginio, gosodwch nhw yn yr oergell.
I weini, dystiwch efo tamaid o siwgr castir a carameleiddiwch gan ddefnyddio "blow torch" neu gril twym.
Rysáit gan Dan ap Geraint, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.