Neidio i'r prif gynnwys
Hafan S4C
S4C Clic
Newyddion
Amserlen Teledu
English
Golau
Tywyll
Pori
Pori
Adloniant
Chwaraeon
Cerddoriaeth
Drama
Ffeithiol
Cyw
Stwnsh
Appearance
Golau
Tywyll
English
Hafan Cegin
Llysieuol
Cig
Gan Colleen Ramsey
Cacen hash hwyaden
Gan
Dan ap Geraint
Hawdd
Heb laeth
Cynhwysion
2 coes hwyad
100g tatws stwnsh
2 sibols
15g coriander
15g 5 sbeis tsieniaidd
25g blawd plaen
2 ŵy hwyad
25g balsamic
25g saws hoi sin
Dull
Gosodwch yr hwyad mewn hambwrdd, ychwanegwch halen a phupur yna pobwch am 1 awr.
Ar ôl pobi, tynnwch yr hwyad i ffwrdd yr asgwrn a gosodwch y cig a'r sudd mewn i bowlen fawr.
Mewn i'r bowlen; adiwch y tatws stwnsh, sibols, coriander a 5 sbeis tsieniaidd. Cymysgwch yn drylwyr.
Ffurfiwch y cymysgedd mewn i patties bach, yna rhowch yn yr oergell nes iddyn nhw galedu.
Cynheswch ffrimpan i dymheredd cymedrol, ychwanegwch olew.
Dystiwch yr hwyad gyda mymryn o flawd, yna ffriwch am 2-3 munud ar y ddau ochr nes iddyn nhw droi'n euraidd.
Yn dilyn hynny, rhowch ar blât yna ffriwch yr wyau.
Unwaith iddyn nhw ffrio gosodwch yr wyau ar ben y cacennau hash.
Mewn bowlen glan, cyfunwch y balsamic a hoi sin. Cymysgwch yn dda yna gwaenwch gyda'r hwyad.
Rysáit gan Dan ap Geraint, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Mwy o Prynhawn Da
Porc gyda madarch
Darllen mwy
Caserol cig eidion Cymru gyda Guinness
Darllen mwy