Neidio i'r prif gynnwys
Hafan S4C
S4C Clic
Newyddion
Amserlen Teledu
English
Golau
Tywyll
Pori
Pori
Adloniant
Chwaraeon
Cerddoriaeth
Drama
Ffeithiol
Cyw
Stwnsh
Appearance
Golau
Tywyll
English
Hafan Cegin
Llysieuol
Cig
Gan Colleen Ramsey
Cacen 'Eton Mess' Mefus
Gan
Catrin Thomas
Hawdd
Cynhwysion
225g margarîn
225g siwgr mân
4 wy
225g blawd hunan-godi
100g mefus
450ml hufen dwbl
75g siwgr eisin
Rhinflas fanila
4 nyth meringue
250g mefus
Jam mefus
Dull
Leiniwch 2 dun 8" gyda papur memrwn.
Cynheswch y popty i 160 ffan/nwy 3
Gan ddefnyddio chwisg llaw neu lwy bren, chwipiwch y margarîn a'r siwgr gyda'i gilydd nes eu bod yn ysgafn.
Ychwanegwch 4 wy wedi'u curo'n raddol yn araf nes bod yr holl wy wedi'i ymgorffori.
Ychwanegwch y blawd hunan-godi a'r mefus.
Rhannwch yn gyfartal rhwng y ddau dun.
Pobwch am 20-25 munud nes eu bod yn frown euraidd.
Tynnwch o'r tun a gadewch iddo oeri.
Unwaith y byddwch chi'n barod i addurno, chwipiwch yr hufen gyda'r siwgr eisin a'r fanila i bigyn meddal.
Ychwanegwch y mefus wedi'u torri a'r meringues at yr hufen.
Rhannwch bob cacen yn ei hanner. Taenwch bob haen gyda'r jam mefus, rhowch draean o hufen Eton mess ar ei ben.
Ailadroddwch hyn a gorffennwch gyda gweddill yr hufen ar ei ben.
Addurnwch gyda mwy o meringues a mefus a chyrlau siocled.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da
Rysáit gan Catrin Thomas