Dyma fanylion am sut mae S4C yn gweithio i sicrhau amrywiaeth, cynhwysiant a chynrychiolaeth – yn ddyletswyddau statudol ac yn gynlluniau gweithredu ehangach.
Adlewyrchu Cymru yw strategaeth S4C i gynyddu amrywiaeth, wella cynhwysiant a sicrhau cynrychiolaeth o gymunedau Cymru.
Bydd y strategaeth yma'n cael ei gwerthuso a'i hadrodd arni yn flynyddol er mwyn mesur effeithiolrwydd a chynnydd y gwaith.
Gallwch ddarllen y strategaeth yma:
Mae gan S4C gyfrifoldebau cyffredinol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy'n cynnwys llunio cynllun strategol blynyddol sy'n amlinellu sut mae S4C yn bwriadu bodloni gofynion cyfreithiol y Ddeddf Cydraddoldeb.
Diweddarwyd y dogfennau hyn ym mis Ionawr 2024 a byddant yn cael eu hadolygu bob blwyddyn.