Amrywiaeth a Chynhwysiant

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth S4C

Mae S4C eisiau sicrhau bod gan bobl dalentog y cyfle i ddatblygu eu sgiliau newyddiaduraeth, beth bynnag eu cefndir. Pob blwyddyn, mae Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth S4C yn cynnig cymorth ariannol i rywun sy'n astudio ar gwrs MA Newyddiaduraeth Darlledu JOMEC ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal â phrofiadau a chyfleoedd gyrfa ymarferol.

Dyma beth mae'r Ysgoloriaeth yn ei gynnig yn 2025:

  • Ffi'r cwrs (£11,700) wedi'i dalu gan S4C
  • Profiad gwaith trwy'r flwyddyn gyda thimoedd newyddiaduraeth S4C, BBC ac ITV ar gynyrchiadau llinol a digidol
  • Cyfle i gael cyfnod gwaith wedi'i dalu gydag S4C ar ôl i'r cwrs orffen.

Ai fi yw'r person iawn?

Bydd gen ti ddiddordeb brwd yn y byd o dy gwmpas a chwilfrydedd i ddarganfod mwy.

Byddi di'n gallu dod â straeon gwahanol i ni. Mae rhai grwpiau o bobl heb gael eu cynrychioli yn ddigonol yn ein gweithlu, ac rydym yn benderfynol i newid hynny. Felly, bydd modd i ti wneud cais i'r Ysgoloriaeth os wyt ti:

  • ag etifeddiaeth ethnig leiafrifol
  • ag anabledd
  • yn dod o gefndir economaidd-gymdeithasol ddifreintiedig a/neu
  • y person cyntaf yn dy deulu i siarad Cymraeg yn rhugl.

Byddi di'n gallu dangos esiamplau o gynnwys rwyt ti wedi'i greu a'i rannu yn gyhoeddus o'r blaen (e.e. ar flogiau, neu cyhoeddiadau myfyrwyr).

Bydd gen ti sgiliau Cymraeg; gallwn dy helpu i wella dy sgiliau iaith Gymraeg cyn ac yn ystod y cwrs os oes angen.

Bydd rhaid i ti gwrdd â meini prawf Prifysgol Caerdydd i wneud y cwrs.

Sut mae gwneud cais?

Mae dau gam i'r broses; mae'n holl bwysig dy fod ti'n cwblhau'r ddau.

Cam un: rho wybod i ni yn S4C dy fod ti'n gwneud cais, trwy lenwi ffurflen

Bydd y ffurflen yn gofyn cwestiynau cyffredinol (enw, cyfeiriad, ayyb). Wedyn bydd angen i ti gyflwyno:

  • datganiad hyd at 250 o eiriau neu
  • fideo hyd at ddau funud.

Yn y datganiad neu fideo, rydym am i ti ddweud wrthym ni:

  • Pam wyt ti eisiau cael y cyfle hwn?
  • Sut wyt ti'n cwrdd â'n anghenion amrywiaeth?
  • Pa fath o sgiliau Cymraeg sydd gennyt ti?

Gelli ymgeisio yma. Mae angen cyflwyno'r ffurflen erbyn 9yb, Ddydd Llun 2 Mehefin 2025.

Rydym yn awyddus iawn i sicrhau hygyrchedd ar gyfer pobl ag anableddau. Felly, os bydd angen unrhyw addasiad rhesymol arnat ti er mwyn dy gefnogi i ymgeisio am y cyfle hwn, cysyllta cyn gynted â phosib i ddweud wrthym ni beth sydd ei angen arnat ti.

Cam dau: cyflwyno cais swyddogol i Brifysgol Caerdydd

Bydd angen i ti fynd drwy broses ymgeisio JOMEC i wneud cais swyddogol am le ar y cwrs.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl dyddiad cau'r Ysgoloriaeth, bydd S4C a Phrifysgol Caerdydd yn edrych ar y ceisiadau gyda'i gilydd i ddewis pwy fydd yn cael yr Ysgoloriaeth.

Byddwn yn ysgrifennu atat ti erbyn 30 Mehefin i roi gwybod os wyt ti wedi bod yn llwyddiannus neu beidio.

Mae gen i gwestiwn

Os oes gen ti unrhyw gwestiwn am sut i wneud cais am yr Ysgoloriaeth, anfona ebost at amrywiaeth@s4c.cymru.

Os oes gen ti unrhyw gwestiwn am y cwrs MA a sut i wneud cais, cysyllta â Phrifysgol Caerdydd.