Darllenwch am sut mae S4C yn sicrhau bod amrywiaeth a chynhwysiant wrth galon ein comisiynu.
Mae mwyafrif cynnwys S4C yn cael ei gomisiynu gan y sector annibynnol. Rydym yn gweithio gyda'r cwmnïau sy'n creu'n cynnwys i sicrhau ei fod yn gynhwysol ac yn adlewyrchu Cymru. Mae comisiynwyr S4C yn herio a helpu'r sector i sicrhau bod y cynnwys yn adlewyrchu Cymru heddiw.
Oes gyda chi syniadau comisiynu? Ewch i adran cynhyrchu'r wefan.
Mae nifer o ganllawiau penodol ar gyfer cynyrchiadau ac mae'r rhain ar gael ar ein gwefan. Mae'r canllawiau'n ymwneud â phob math o agweddau o gynhyrchu ac yn cynnwys ein hymrwymiad amrywiaeth.
Mae'r canllawiau yma'n cael eu hadolygu o bryd i'w gilydd yn unol â strategaeth Adlewyrchu Cymru.
Bydd canllawiau newydd yn cael eu creu i gefnogi'r sector i weithio mewn ffordd gynhwysol ac wrth ystyried cynrychiolaeth – ar- ac oddi-ar y sgrin - hefyd.
Mae S4C yn comisiynu rhaglenni o bob math, gan gynnwys drama, cerddoriaeth, ffeithiol, newyddion, adloniant, chwaraeon a phlant. Mae cynnwys S4C hefyd yn eistedd ar nifer o blatfformau gwahanol, o'r sianel deledu i S4C Clic, YouTube a TikTok.
Gallwch ddarllen am rhai enghreifftiau o'n cynnwys sy'n pwysleisio cynhwysiant ac amrywiaeth, ar y sgrin, tu ôl i'r llenni ac ar gyfer y gynulleidfa.
Er nad yw o fewn cylch gorchwyl y ddyletswydd, mae gan gomisiynwyr cynnwys S4C gyfrifoldeb penodol i weithio'n agos gyda chynhyrchwyr rhaglenni er mwyn sicrhau bod amrywiaeth yn ymddangos ar ein sgriniau a bod cymunedau yng Nghymru i gyd yn cael eu portreadu. Caiff y cyfrifoldeb hwn ei gryfhau a'i gefnogi gan yr Arweinydd Amrywiaeth, Cynaliadwyedd a Phwrpas Cymdeithasol.
Mae S4C yn diffinio eu cynnwys amrywiaeth ar dair lefel;
Mae gwaith ar droed i sicrhau bod sgyrsiau a phenderfyniadau am gynnwys a lefel yr amrywiaeth o fewn y cynnwys yn cael eu cofnodi ar ffurflenni syniad cychwynnol, briff a phrosiect.
Mae ein holl raglenni newyddion a materion cyfoes yn anelu i gynrychioli Cymru Gyfan drwy amrywiaeth o gyfranwyr a phynciau. Fe gynhyrchodd Pawb a'i Farn raglen drafod arbennig ar anabledd wrth i fis hanes anabledd Cymru ddirwyn i ben. Rhoddodd y Byd ar Bedwar sylw arbennig i hiliaeth gyda'r cyflwynydd Ameer Davies-Rana yn galw am gyfreithiau hiliaeth lymach, ac mae ein rhaglenni newyddion dyddiol a newyddion i blant yn rhoi sylw i amryw o bynciau sydd nid yn unig yn trafod ond yn cynnwys cyfranwyr sy'n dod o'r holl grwpiau nodweddion gwarchodedig.
Mae ein cynnwys di-sgript yn ceisio adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth trwy gynnig llwyfan i gyfranwyr, cyflwynwyr a phynciau amrywiol. Roedd Windrush: Rhwng Dau Fyd yn siwrne bersonol gyda thalent ifanc yn archwilio stori ei theulu ochr yn ochr gyda phrofiadau ei chenhedlaeth hi yn y Gymru gyfoes, tra bod Taith i Gaeredin yn dilyn tair o berfformwyr comedi fwyaf cyffrous y genedl wrth iddyn nhw ymweld â'r ŵyl enwog, gyda phynciau rhywioldeb ac ethnigrwydd yn is themâu amlwg. Roedd sicrhau dewis amrywiol o gyfranwyr yn rhan graidd o fformatau Taith Bywyd a Stryd i'r Sgrym ac yn fodd o archwilio safbwyntiau gwahanol a chefndiroedd amrywiol, boed ar sail dosbarth, rhywioldeb, ethnigrwydd neu anabledd. Ar lefel is-drothwyol mae cyfresi fel Ffermio, cynnwys cyfryngau cymdeithasol yr ap Cwis Bob Dydd a chyfres ddigidol Y Gêm Gyda... wedi rhoi llwyfan i gyflwynwyr a chyfranwyr amrywiol.
Mae ein cynnwys dogfennol a ffeithiol arbennig yn rhoi llwyfan amlwg i gyflwynwyr, cyfrannwyr a chynnwys amrywiol. Dros y flwyddyn bu nifer o ddogfennau unigol yn edrych ar bynciau yn ymwneud â rhywedd ac anabledd. Roedd Alex Humphries: Epilepsi a fi yn gyfle i fynd ar drywydd afiechyd sydd yn aml iawn yn un cudd, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Cafwyd cyfle yn Rygbi Byddar a Chwpan y Byd i deithio i Dde America gyda thȋm Rygbi Byddar Cymru a dathlu yn eu llwyddiant. Cafwyd dwy ffilm yn edrych ar bynciau LHDTC+ yn ystod y flwyddyn. Roedd y gyntaf yn ddathliad o fywyd Cranogwen wrth i gofeb ohoni gael ei ddadorchuddio yn Llangrannog. Ac yna ddiwedd y flwyddyn fe gofnodwyd 20 mlynedd ers diddymu Cymal 28 yn y ffilm Paid a dweud Hoyw. Stifyn Parri fu'n olrhain hanes un o'r deddfau homoffobaidd cyntaf mewn canrif ac yn trafod ei daith bersonol yn y frwydr i'w ddidymu.
Cafwyd dwy ffilm yn adrodd straeon unigolion wynebodd heriau personol yn dilyn damweiniau. Roedd Stori Alys yn ffilm ysbrydoledig am ferch fach 7 oed gollodd ei choes wedi damwain yn yr ardd. Ei breuddwyd oedd ail ddechrau dawnsio ac mae'r ffilm yn ei dilyn i gyrraedd y nôd hwnnw. Ac yna yn Ifan Phillips: Y Cam nesaf cafwyd ffilm onest ac agored yn dilyn y cyn chwaraewr rygbi yn ail adeiladu ei fywyd wedi iddo golli ei goes mewn damwain motor beic.
Un o gyfresi ffeithiol mawr y flwyddyn oedd Y Frwydr:Stori Anabledd. Am y tro cyntaf ar S4C cofnodwyd hanes anabledd yng Nghymru mewn cyfres bwerus a gyflwynwyd gan Marred Jarman sydd ei hun yn berson ifanc gyda nam golwg.
Mae amrywiaeth yn amlygu ei hyn hefyd yn ein cyfresi hir dymor. Bu Dechrau Canu Dechrau Canmol yn nodi Mis Hanes LHDTC+ gyda chyfweliad ysgytwol hefo John Sam Jones, dyn hoyw fu'n adrodd ei stori ryfeddol o faddeuant, trugaredd a chariad. Mae'r gyfres hefyd wedi nodi gwyliau crefyddol o bob ffydd, gan gynnwys Ramadan a Diwali ac wedi tynnu sylw at Fis Hanes Pobl Du.
Mae Heno a Pnawn Da yn gyson yn rhoi llais a llwyfan i gynnwys a chyfrannwyr amrywiol trwy Gymru, gan amlygu unigolion a chymunedau sy'n cael eu tan gynrychioli. Mae Terry Tuffrey (sydd a chyflwr niwrowahanol) yn parhau i weithio ar y tîm cynhyrchu yn swyddfa Heno yng Nghaernarfon.
Mae Llinos Owen wedi ymuno a thîm cyflwyno Cynefin. Yn dilyn damwain car yn 2009, mae hi'n aelod o dȋm Ceufadu Paralympaidd Prydain Fawr.
Mae rhaglenni Adloniant ac Adloniant ffeithiol megis Iaith ar Daith, Am Dro, Dêr' Dramor 'da Fi ac ail gyfres Gogglebocs Cymru ac wedi cyflwyno'r gynulleidfa i gyfranwyr o Gymunedau Ethnig Amrywiol ac o'r gymuned LHDTC+. Trwy raglenni fel Drych: DJ Terry a Phrosiect Pum Mil, rhoddwyd sylw amlwg i gyfranwyr a chymunedau Anabl, Byddar a Niwrowahanol Cymru. Yn rhan o gyfres 5 o Guradur, cafodd Tumi Williams o'r band Afrocluster cyflwyno gwesteion o Gymunedau Ethnig Amrywiol Cymru sef DJ Trishna Jaikara ac Adjua.
Mae Hansh, brand ar-lein S4C, yn parhau i arddangos a llwyfannu lleisiau ifanc amrywiol yng Nghymru. Yn ogystal â'i gynnwys cyfryngau cymdeithasol ffurf-fer arferol, mae cyfresi ffurf ganolig wedi creu argraff gan gynnwys Bwmp, comedi sefyllfa wedi ei ysgrifennu gan awdur anabl ac yn serennu actores anabl, mae hon eisoes wedi ei chomisiynu i fod yn gyfres hirach. Mae'r brand poblogaidd Tisho Fforc? yn parhau i greu sŵn ac yn cael ei arwain gan Mared Parry sy'n ymgyrchu ac yn codi ymwybyddiaeth am ei hanableddau cudd. Fe enillodd Dom a Lloyd: Cymru Heddiw wobr am y gyfres ffurf fer orau yng ngwobrau New Voice eleni, yn rhoi llwyfan i Gymru ifanc du llwyddiannus.