Mae cymeriadau Stad yn ôl - gyda Dan a Nikki yn dianc o'r tân yng nghartref Ed, tra bod Ed a Neil yn ymladd wrth i'r fflamau agosau. Ceisia Anest guddio corff Keith yn y coed tra fod Carys yn cael ei hysgwyd gan ddrygioni ei mab. Mae Cemlyn yn cael diwrnod i'r brenin yn y gwaith.